Barack Obama
Mae arweinwyr seneddol y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr yn yr Unol Daleithiau wedi dod i gytundeb er mwyn osgoi methdalu.
Fe wnaeth arweinydd y Democrataidd, Harry Reid, y cyhoeddiad ar ddechrau’r sesiwn yn y senedd heddiw.
Fe fydd y cytundeb yn golygu bod adrannau’r llywodraeth yn ailagor hyd at 15 Ionawr ac yn codi trothwy dyled y wlad hyd at 7 Chwefror.
Mae’r anghydfod wedi golygu bod tua miliwn o weision sifil wedi gorfod aros adref o’u gwaith, tra bod adeiladau’r llywodraeth ffederal wedi cau ynghyd â safleoedd eraill fel parciau.
Roedd yn rhaid i’r Senedd ddod i gytundeb erbyn hanner nos gyda phryderon yn cynyddu y byddai’r marchnadoedd ariannol yn gostwng yn sylweddol os an fyddai hynny’n digwydd.
Dywedodd y Seneddwr Gweriniaethol, Ted Cruz, oedd wedi arwain y gwrthwynebiad i ddiwygiadau Barack Obama i ofal iechyd, na fyddai’n oedi pleidlais ar y cytundeb newydd.