Y Cynghorydd Kevin Madge
Mae Cynghorau Sir Cymru wedi rhybuddio bod cyfnod anodd iawn ar y gweill yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am y gostyngiad yn setliad Llywodraeth Leol Cymru heddiw.
Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud ei fod eisiau i bawb gydweithio er mwyn delio a’r toriadau diweddaraf i gyllid y cyngor tra bod deilydd portffolio cyllid Cyngor Ynys Môn wedi dweud bod y setliad yn “siomedig”.
Sir Gaerfyrddin
Fe fydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn derbyn 3.9% yn llai o gyllid y flwyddyn nesaf o’i gymharu ag eleni.
Mae arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge, eisoes wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i’r cynghorwyr wneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd dros y misoedd nesaf.
Nawr mae’n galw ar y 74 cynghorydd lleol, yn ogystal â grwpiau gwirfoddol a chymunedol, i ddiogelu cymaint o wasanaethau a swyddi ag sy’n bosibl.
“Mae hwn yn un o’r setliadau anoddaf yr ydym erioed wedi ei gael,” meddai’r Cynghorydd Kevin Madge.
“Fodd bynnag, trwy weithio gyda’n cymunedau, mae gennym well cyfle o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a swyddi.
“Rwyf hefyd yn galw ar bob aelod o’r cyngor i weithio gyda’i gilydd, yn debyg i’r ffordd y maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd yn Llywodraeth Cymru lle maen nhw wedi rhoi eu gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu i symud ymlaen a gosod cyllideb.”
Ynys Môn
Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn hefyd wedi ymateb i’r cyhoeddiad gan ddweud y byddan nhw’n gorfod wynebu penderfyniadau anodd iawn o ran darparu gwasanaethau i’r dyfodol.
Mae’r Cyngor wedi derbyn un o’r setliadau isaf yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2014 /15 gyda 4% o doriad yn eu cyllid.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams ei fod yn debygol y bydd y cyngor yn cael ei “orfodi unwaith eto i godi’r dreth gyngor hyd at yr uchafswm o 5% gan fod cynnydd llai ddim yn gynaliadwy.
Ychwanegodd y deilydd portffolio cyllid, y Cynghorydd Hywel Eifion Jones, “Mae’r gostyngiad ariannol o 4% ar gyfer Ynys Môn o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 3.5% yn annheg wrth ystyried y lefelau uchel o bobl hyn a di-waith sydd yma.
“Mae’r setliad dros dro yma’n un siomedig gan Lywodraeth Cymru ac yn sicr o gael effaith mawr ar lefel Treth y Cyngor a darpariaeth ein gwasanaethau i’r dyfodol.”
Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweld toriad o 4.6% yn ei setliad. Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans, ar y Post Prynhawn: “Dyma’r ffigwr gwaethaf rydan ni erioed wedi ei weld. Ond dydy o ddim yn sioc. Rydan ni wedi bod yn paratoi’n ofalus ers peth amser.”
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol o bum wythnos ar y setliad dros dro.