Gwerfyl Pierce Jones
Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi mai Gwerfyl Pierce Jones yw Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni.
Dywedodd Yr Athro Ioan Williams, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2008, wrth ymddeol o’r Bwrdd:
“Rwyf wrth fy modd i adael Theatr Genedlaethol mewn cyflwr mor llewyrchus ar ôl chwe blynedd ddiddorol iawn. Rwyf yn dymuno’n dda i’r Cadeirydd newydd ac i’r cwmni ac yn hyderus y bydd y llwyddiant yn parhau.”
Daw Gwerfyl Pierce Jones o Aberystwyth, a bu’n Gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru rhwng 1987 a 2009. Dywedodd ei bod yn ei ystyried yn fraint cael ymgymryd â’r gadeiryddiaeth ar adeg mor gyffrous yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru.
“Mae’r cwmni wedi cymryd camau breision dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai, “ac mi fyddwn ni fel Bwrdd yn rhoi pob cefnogaeth i Arwel Gruffydd a’i dîm i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes ac i ddatblygu ymhellach mewn cydweithrediad â’n hamryfal bartneriaid.
“Rwyf am weld y cwmni’n parhau i roi pwyslais ar safon ac arloesi a bydd y pwyslais yn parhau hefyd ar ddenu cynulleidfa newydd o bob rhan o’r gymdeithas yn ogystal â chynnal diddordeb selogion presennol y theatr Gymraeg.”