Y penwythnos hwn bydd Gŵyl Sŵn, a gafodd ei sefydlu gan y DJ Huw Stephens a John Rostron, yn dathlu ei seithfed flwyddyn.
Mae Sŵn wedi tyfu yn aruthrol ers cael ei sefydlu yn 2007 ac mae wedi datblygu yn un o wyliau mwyaf Cymru. Gyda dros 150 o fandiau yn perfformio’r llynedd a 5,000 o bobol yn mynychu’r ŵyl, mae’r trefnwyr yn hapus iawn gyda’r ffordd mae’r ŵyl wedi datblygu.
Bydd yr ŵyl yn cychwyn ar nos Iau Hydref 17 nes nos Sul Hydref 20.
“Y rheswm pam naethon ni gychwyn yr ŵyl oedd achos bod galw am ŵyl o’i math yng Nghaerdydd a Chymru. Ry’ ni’n rhoi bandiau Cymraeg ar blatfform rhyngwladol, denu bandiau sydd ddim fel arfer yn chwarae yng Nghymru a denu pobol sydd ddim fel arfer yn dod i Gymru,” meddai Huw Stephens wrth Golwg360.
Eleni bydd Gŵyl Nyth, y Selar, a’r cylchgrawn cerddoriaeth boblogaidd NME yn cael llwyfannau yno.
‘Uchafbwynt blynyddol i’r sin roc’
“Mae Sŵn fel yr Eisteddfod i’r sin roc Cymreig ac mae’n uchafbwynt blynyddol i’r sin yng Nghaerdydd,” ychwanegodd Huw Stephens. “Mae’r awyrgylch yn wych bob blwyddyn.”
Am y tro cyntaf eleni bydd gwefan Pobol Caerdydd, sef gwasanaeth digidol cyfoes a chyfredol i bobl y ddinas, yn cynnal gig yng Ngwesty’r Angel ar y nos Wener.
Er bod bandiau o Gymru yn rhan “enfawr o beth mae Sŵn yn ei wneud” mae’r DJ o Gaerdydd eisiau rhoi cyfle i fandiau o bob cwr o’r byd, megis America a Japan. Ond rhan hanfodol o’r ŵyl iddo hefyd yw’r “bandiau o Gymru sy’n chwarae yn y ddwy iaith”.
Ychwanegodd: “Bob blwyddyn mae pethau’n newid , fel lleoliadau, a ry’n ni wastad yn dod a syniadau newydd at y bwrdd. Fel pob gŵyl, ry’n ni’n trio rhywbeth gwahanol ac weithiau dydy e ddim yn gweithio.”
Radio Sŵn
Am y tro cyntaf eleni, bydd Gŵyl Sŵn yn darlledu gorsaf “Radio Sŵn” o gwmpas ardal Caerdydd ar 87.7FM ac ar y we.
Fe fyddan nhw’n darlledu o siop Urban Outfitters, yn ardal yr Ais yn y ddinas, rhwng Hydref 14-20. Bydd yr awdur Llwyd Owen, a’r gyflwynwraig Bethan Elfyn, yn ddau o’r nifer a fydd yn cyflwyno ar yr orsaf. Bydd Radio Wales yn darlledu hefyd ar y nos Sadwrn.
“Mae cymaint o fandiau ymlaen ond mae’n amhosib dweud pwy dw i’n edrych ymlaen at ei weld fwyaf,” meddai Huw Stephens. “Mae’n mynd yn haws bob blwyddyn gweld y bandiau, ond anaml byddai’n gweld setiau llawn ond rwy’n awyddus i newid y lein-yp bob blwyddyn. Mae’n gyfle gwych i weld beth sydd ymlaen yn y sin yng Nghymru.”
Stori: Gareth Pennant