Mae Gruff Rhys ymysg artistiaid Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd penwythnos yma
Bydd rhai o enwau mawr cerddoriaeth ar y llwyfan yn diddanu ar gyfer Gŵyl Sŵn 2013 yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos.

Mae sêr gan gynnwys Gruff Rhys, Goldie Lookin’ Chain, Charlotte Church a Mr Scruff am fod yn perfformio ac yn cynnal sesiynau yn ystod yr Ŵyl pedwar diwrnod rhwng y 17 a 20 Hydref.

Ac fe fydd yr Ŵyl, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, hefyd yn llwyfan i lansio gorsaf radio diweddaraf y brifddinas, Radio Gŵyl Sŵn.

Lansio’r orsaf

Cafodd yr orsaf ei lansio heddiw yn Urban Outfitters yng nghanolfan siopa’r Hayes, ac fe fydd yn darlledu hyd nes diwedd yr Ŵyl.

Bydd modd gwrando ar yr orsaf yn lleol ac yn rhyngwladol drwy FM (87.7) a signal digidol, gyda’r sioeau i gyd ar gael o Mixcloud nes ymlaen .

“Dy ni eisiau cymaint o bobl a phosib i allu cyrraedd a mwynhau’r ŵyl eleni” meddai Gemma White, rheolwraig digwyddiadau Gŵyl Sŵn.

“Mae lansio’r orsaf radio’n gyffrous iawn ac yn golygu’n bod ni’n medru darlledu’n fyw i’n cynulleidfa, rhywbeth ‘dy ni heb wneud o’r blaen.

“Dy ni am i bobl o Gaerdydd a thu hwnt allu cysylltu â’r ŵyl, a’n bwriad ni yw hyrwyddo’r gerddoriaeth wych fydd ar gael y penwythnos yma.

“Bydd pobl sy’n siopa’n medru cael seibiant, ymlacio a mwynhau gwrando ar y gerddoriaeth, a mynd a’r profiad yna i ffwrdd gyda nhw.”

Rhestr faith o sêr

Dros y penwythnos bydd yr orsaf radio’n rhoi sylw i’r holl enwogion cerddorol fydd ar y llwyfannau, yn chwarae gigs, sesiynau byw, cynnal cyfweliadau a mwy.

Mae rhai o’r enwau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Gruff Rhys, Mr Scruff, Goldie Lookin Chain, Charlotte Church, Gulp, Wichita Records, Pete Fowler, Jonny Trunk, Kelly’s Records, Pete Paphides, Andrew Backhouse a Spillers Records.

Yn ogystal â hynny, bydd sioeau dwyieithog gan rai megis Llwyd Owen, Llwybr Llaethog, Recordiau Lliwgar, Y Nyth, Cam O’r Tywyllwch, a llawer mwy.

Bydd yr Ŵyl hefyd yn rhoi sylw i rai artistiaid cyfredol a newydd, gan gynnwys sesiynau byw gyda Casi Wyn, Sweet Baboo, Cowbois Rhos Botwnnog, Plu, Maria Hackman, Tawiah, Aled Rheon, Cut Ribbons, Iron Eye, The Lovely Wars, a Kizzy Crawford.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglen ar gyfer yr wythnos ar orsaf radio Gŵyl Sŵn, ynghyd a llawer mwy, ewch i wefan Gŵyl Sŵn.