Bu gwneuthurwyr ffilm o Gymru yn dathlu eu llwyddiannau yn noson wobrwyo It’s My Shout yng Nghanolfan y Mileniwm neithiwr, gyda sgwennwyr Cymraeg yn derbyn rhai o’r prif wobrau.

Sefydlwyd It’s My Shout, sy’n cynhyrchu ffilmiau byr i S4C, ITV Cymru, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, i roi cymorth a hyfforddiant i wneuthurwyr ffilm o bob maes, o actorion i dechnegwyr.

Dyma’r unfed flwyddyn ar ddeg i’r noson wobrwyo gael ei chynnal â’r digrifwr Rob Brydon yn derbyn y Wobr Ysbrydoledig.

Safonol

Mae wyth ffilm ddeng munud o hyd wedi cael eu dewis i’w cynhyrchu a’u dangos ar sianeli teledu. Ciron Gruffydd o Dremadog ac Elgan Rhys o Bwllheli sy’n gyfrifol am y ddwy Gymraeg yn eu mysg.

Fe enillodd Ciron Gruffydd ddwy wobr – y Ffilm Orau am ‘Gadael Sneggi’, sydd wedi ei ysbrydoli gan drychineb Senghennydd, a’r Sgwennwr Gorau i’r Sgrin gyda’r stori gariad ‘Three Days’.

“Mae cael dwy ffilm allan o’r wyth sy’n cael eu cynhyrchu, yn wych,” meddai’r sgwennwr 28 oed.

“Roedd Griff Rowland, un o gyfarwyddwyr Coronation Street, yn cyflwyno un o’r gwobrau a hynny’n brawf o safon y cynhyrchu.”

Bydd ffilmiau Ciron Gruffudd yn cael eu dangos ar S4C cyn y Nadolig.