Manic Street Preachers
Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu’r Manic Street Preachers gyda fideo ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Anthem for a Lost Cause’.
Mae ffilm fer sy’n cyd-fynd â’r sengl yn dangos lluniau o streic y glowyr yn 1984 a ddaeth gan Lyfrgell Glowyr De Cymru’r brifysgol.
Gofynnodd cyfarwyddwr y ffilm, Kieran Evans, i’r llyfrgell am gymorth i ddod o hyd i ffilm oedd yn dangos rôl bwysig merched o ran cefnogi cymunedau glofaol de Cymru yn ystod y streic.
Dywedodd Nicky Wire o’r band a raddiodd ym Mhrifysgol Abertawe : “Mae’r ffilm yn arwrol, emosiynol a heriol – atgof amserol o bŵer y cymorth roddodd fenywod i’w cymunedau. Ac mae’n edrych yn hyfryd.”
Mae’r holl ddeunydd archif yn y fideo yn dod o Grŵp Hanes Menywod Abertawe wnaeth ffilmio streic y glowyr yn 1984-5 o safbwynt gwragedd a phartneriaid y streicwyr.