Bywyd diddanwr plant, Handi Al, fydd canolbwynt cynhyrchiad nesaf y Theatr Genedlaethol.

Bydd Pridd, drama newydd ar gyfer un actor gan Aled Jones Williams, yn mynd ar daith ym mis Tachwedd ac fe gafodd y ddrama ei sgwennu yn arbennig ar gyfer yr actor, Owen Arwyn.

Mae’r ddrama yn sôn am Handi Al yn dychwelyd adref un prynhawn i ddarganfod fod pob dim a’i ben i waered a’i ddodrefn wedi troi’n bridd.

Meddai Aled Jones Williams: “Ysgrifennais Pridd fel drama ar gyfer actor. Felly yr actor a’r actio sydd flaenaf, nid y themâu.

“Os oes thema – ac rwyf am bwysleisio’r os – yna drama am hunaniaeth ydyw. A a wyddom pwy ydym? A wyddom beth sy’n digwydd i ni ar hyn o bryd? A wyddom sut y mae’r pethau hynny yn digwydd?”

Triciau

Er mwyn deall cymeriad Handi Al mae Owen Arwyn wedi bod yn treulio’i amser yn dysgu triciau clownio ac wedi cael arweiniad gan arbenigwyr yn y maes.

Meddai Owen Arwyn: “Mae’n bleser gweithio ar ddrama sydd wedi cael ei ysgrifennu ar fy nghyfer gan rhywun dwi’n ei edmygu cymaint ag Aled Jones Williams.

“Mae’n ddrama ddiddorol sydd yn cynnig llawer i actor. Dwi wrthi ar hyn o bryd yn dysgu triciau clownio… Sy’n dipyn o her, ond mae’n gymorth i fynd at wraidd y cymeriad.”

Bydd y daith yn cychwyn ar 7 Tachwedd, 2013 yng nghartref Theatr Genedlaethol Cymru, Y Llwyfan, Caerfyrddin cyn mynd ar daith i wyth lleoliad gwahanol ar draws Cymru.

Mae gwybodaeth am y daith i’w gael ar wefan y Theatr Genedlaethol: http://www.theatr.com/cynyrchiadau/pridd.aspx