Mae disgwyl i adeilad Pontio agor ymhen blwyddyn
Heddiw fe fydd Cyngor Prifysgol Bangor yn dewis yr enw ar gyfer y theatr fydd yn dod yn lle’r hen Thetar Gwynedd ar safle’r prosiect Pontio.
Mae’r criw o actorion a Chyfeillion Theatr Gwynedd sy’n pwyso am alw’r lle yn ‘Theatr Wilbert Lloyd Roberts’ wedi anfon dogfen at Gyngor y Brifysgol yn esbonio ei gyfraniad i fyd y ddrama Gymraeg.
Eisoes mae’r Gwyddel sy’n ben ar y Brifysgol wedi dweud ei fod yn ffafrio’r enw ‘Theatr Bryn Terfel’.
“Mae’r seren opera o Wynedd, sydd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor, yn enw mawr rhyngwladol yn y celfyddydau,” meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, John Hughes.
Ond mae’r academydd Dafydd Glyn Jones wedi galw am ystyried ‘Theatr John Gwilym Jones’, yn deyrnged i’r dramodydd fu’n fyfyriwr a darlithydd yn y Brifysgol.
“Coffâd priodol”
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol fe dreuliodd Ann Jones o Gyfeillion Theatr Gwynedd ddiwrnod yn casglu dros 100 o enwau ar ddeiseb yn galw am enwi’r theatr newydd er cof am Wilbert Lloyd Roberts.
Ynghyd â’r actores Gaynor Morgan Rees, mae hi wedi bod yn pwyso ar y Brifysgol i fabwysiadu’r enw “yn goffâd priodol i arloeswr y theatr yng Nghymru”.
Yn ôl cefnogwyr ‘Theatr Wilbert Lloyd Roberts’ bu i’r dyn o Lanberis gyfrannu’n helaeth i ddinas Bangor a’r theatr yng Nghymru.
Yn eu llith i Gyngor y Brifysgol maen mae’r cyfranwyr yn dweud: ‘…ei gyfraniad mwyaf oedd yma ym Mangor lle bu’n gyfrifol am greu rhaglen hyfforddiant a roddodd gychwyn nid yn unig i’r theatr broffesiynol Gymraeg gyntaf ond hefyd i yrfaoedd llu o’n hactorion a’n hawduron enwocaf; sefydlodd Adran Theatr Antur i roi cyfle i actorion ifanc lwyfannu gwaith arbrofol ac o’r cnewyllyn yma y daeth cwmnïau megis Theatr Bara Caws, Hwyl a Fflag, Sgwâr Un a Dalier Sylw. Lansiwyd cylchgrawn y Cwmni, ‘Llwyfan’, ym 1968, i hybu cynyrchiadau’r cwmni, ac i drafod datblygiadau ym myd y theatr yng Nghymru. Datblygodd hefyd rwydwaith o wirfoddolwyr trwy Gymru gyfan i ddosbarthu posteri a thaflenni yn eu cymunedau, i hysbysebu cynyrchiadau teithiol y cwmni, ac i feithrin cynulleidfaoedd.
‘Breuddwyd arall a wireddwyd gan Wilbert, yn sgil llwyddiant Cwmni Theatr Cymru, oedd y theatr bwrpasol a ddaeth i Fangor ym 1975. Fel Pontio, roedd Theatr Gwynedd yn diwallu anghenion y gymuned gyfan. Daeth yn ganolfan i Gwmni Theatr Cymru, a thros y blynyddoedd fe lwyfannwyd llu o ddigwyddiadau theatrig, sioeau cerddorol, cymunedol a llawer iawn mwy.
‘Heb gyfraniad amhrisiadwy’r ffigwr pwysig yma ym myd y theatr yng Nghymru, ni fyddai perfformiadau theatr broffesiynol yn y Gymraeg wedi datblygu i’r fath raddau, ni fyddai theatr wedi bod ym Mangor, ac efallai na fyddai Pontio yn blaguro yma heddiw chwaith.’
Buddsoddiad sylweddol
Fe benderfynodd Prifysgol Bangor gau drysau Theatr Gwynedd yn 2008, ac ers hynny maen nhw wedi denu nawdd sylweddol o’r coffrau cyhoeddus i godi adeilad Pontio.
Mae disgwyl i’r prsiect gostio £42 miliwn, gyda £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £12.5 miliwn o grant Ewropeaidd.