Alice Munro
Mae’r awdures o Ganada, Alice Munro, wedi ennill y Wobr Nobel am Lenyddiaeth eleni.
Mae hi’n cael ei hadnabod fel meistr y stori fer a hi yw’r person cyntaf o Ganada i ennill y wobr, a gwobr ariannol o £750,000, ers i Saul Bellow ennill y wobr yn 1976.
Mae rhai’n ei galw hi’n Checkhov modern oherwydd ei chynhesrwydd, treiddgarwch a thrugaredd.
Mae ei straeon fel arfer wedi eu lleoli yn Ontario, Canada, ble mae hi’n byw. Un o’i straeon mwyaf adnabyddus yw The Bear Came Over the Mountain sy’n stori am wraig sy’n dechrau colli ei chof ac yn cytuno gyda’i gŵr y dylai gael ei rhoi mewn cartref nyrsio.
Y llynedd, aeth y Wobr Nobel am Lenyddiaeth i Mo Yan o Tsieina.