Mae’r gyfres amaethyddol Fferm Ffactor wedi cael ei gwerthu i orsaf deledu CCTV 7 yn China.

Yn wreiddiol, cafodd y rhaglen ei sefydlu gan gwmni Good Company Productions ar gyfer sianel deledu TG4 yn Iwerddon.

Yna, aeth Cwmni Da o Gaernarfon ati i ddatblygu’r fformat cyn cydweithio gyda’r cwmni Gwyddelig a chwmni dosbarthu Nordic World i werthu’r fformat i wledydd eraill.

Mae fformat y rhaglen eisoes wedi ei gwerthu i Ffrainc, Yr Almaen, Sweden, Norwy, Denmarc a’r Ffindir.

Bydd y cam diweddaraf yma’n cyflwyno’r fformat i wlad Asiaidd am y tro cyntaf – gwlad fwya’ boblog y byd, sy’n cyflogi dros 300 miliwn o ffermwyr, a’r wlad sydd â’r mwya’ o ddefaid yn y byd.

Pwysig

“Mae’n amlwg fod amaethyddiaeth yn bwysig iawn i China,” meddai Cynhyrchydd Fferm Ffactor, Non Griffith.

“Dydyn ni ddim yn siŵr iawn eto pa fath o dasgau fydd Cynhyrchwyr China am eu gosod ar gyfer y cystadleuwyr ond rydym yn edrych ymlaen at gael gwybod mwy am hynny yn y misoedd nesaf.”

Mae Fferm Ffactor yn rhaglen sy’n profi sgiliau grŵp o ffermwyr ar bob agwedd o waith fferm gydag un person yn mynd allan bob wythnos. Mae  CCTV 7 yn China wedi comisiynu cyfres o wyth rhaglen.

Bydd cyfres newydd Fferm Ffactor yn dechrau ar S4C nos Fercher 16 Hydref, 7.30yh.