Unwaith eto eleni, llwyddiant ysgubol oedd yr adran leol yn Eisteddfod Gadeiriol y Tymbl. Braf oedd gweld plant lleol mor gartrefol yn mwynhau canu a llefaru ar lwyfan yr eisteddfod. Mawr yw ein diolch i ddisgyblion, rhieni ac athrawon Ysgol y Tymbl ac Ysgol Llannon am eu cefnogaeth barhaol i’r cystadlaethau lleol.
Enillwyd cadair yr eisteddfod gan Nia Morgan, sydd yn wreiddiol o Drefach gyda cherdd rhydd ar y testun ‘Y Bont’. Defnyddiodd Nia y ffug enw Daff, er cof am ei hen datcu, Daff Davies, Cwm Mawr a oedd yn fardd crefftus. Dyma’r tro cyntaf i Nia ennill cadair eisteddfod, gobeithiwn taw hon fydd yr un gyntaf o nifer. Rhoddwyd y gadair eleni gan yr eisteddfod, er cof am Mr Ken Lloyd, un a fu mor weithgar er budd yr eisteddfod am flynyddoedd lawer fel cadeirydd ac ysgrifennydd. Yn ogystal rhoddwyd cledd i’w ddefnyddio’n barhaus gan yr eisteddfod er cof amdano gan Mrs Margaret Lloyd, ei wraig a’i deulu. Cyfrannodd Mr Ken Lloyd yn helaeth nid yn unig i’r eisteddfod ond hefyd i’r pentref ar hyd y blynyddoedd. Mawr yw’r colled ar ei ôl. Daethpwyd a seremoni’r cadeirio i ben gan gôr o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Penygroes.
Ennillydd y Gadair - Nia Morgan
Llywydd y dydd oedd Mrs Gwyneth Tinnuche Williams. Yn ei haraith bu’n olrhain eisteddfodau’r gorffennol yn yr ardal a thu hwnt.
Cystadlaethau lleol
Unawd Canu Blwyddyn 2 a than hynny – 1, Eleri Bunford, Ysgol y Tymbl; 2, Raven, Ysgol y Tymbl; Cydradd 3ydd, Rhian Box a Sienna Tucker, Ysgol y Tymbl.
Llefaru Blwyddyn 2 a than hynny – 1, Seren Weston, Ysgol Llannon; 2, Betsan Lewis, Ysgol Llannon; 3, Eleri Bunford, Ysgol y Tymbl.
Unawd Canu Blynyddoedd 3 a 4 – 1, Hollie Davies, Ysgol Llannon; 2, Amelia Davies, Ysgol y Tymbl; 3, Jessica Murphy, Ysgol y Tymbl.
Llefaru Blynyddoedd 3 a 4 – 1, Myfanwy Lewis, Ysgol Llannon; 2, Hollie Davies, Ysgol Llannon; 3, Amelia Davies, Ysgol y Tymbl.
Unawd Canu Blynyddoedd 5 a 6 – 1, Tanwen Moon, Ysgol Llannon; 2, Elliott Rees, Ysgol y Tymbl; 3, Celyn Phillips, Ysgol y Tymbl.
Llefaru Blynyddoedd 5 a 6 – 1, Carys Williams, Ysgol Llannon; 2, Ellie Harris, Ysgol Llannon; 3, Tanwen Moon, Ysgol Llannon.
Cystadlaethau Agored
Unawd Canu Blwyddyn 2 a than hynny – 1, Cadi Mai Davies, Llanelli; Cydradd 2il, Ela Mablen, Aberaeron a Lydia Smith, Llannon.
Unawd Llefaru Blwyddyn 2 a than hynny – 1, Celyn Richards, San Clêr; 2, Ela Mablen, Aberaeron; 3, Cadi Mai Davies, Llanelli.
Unawd Canu Blynyddoedd 3 a 4 – 1, Gwenno Lili Davies, Llanelli; 2, Zara Evans, Tregaron.
Llefaru Blynyddoedd 3 a 4 – 1, Zara Evans, Tregaron; 2, Gwenno Lili Davies, Llanelli; 3, Myfanwy Lewis, Gorslas.
Unawd Canu Blynyddoedd 5 a 6 – 1, Heledd Wynn Newton, Caerdydd; 2, Tanwen Moon, Drefach.
Llefaru Blynyddoedd 5 a 6 – 1, Trsytan Llyr Davies, Rhosmaen, Llandeilo; 2, Heledd Wynn Newton, Caerdydd; 3, Tanwen Moon, Drefach.
Unawd ar unrhyw offeryn cerdd blwyddyn 6 a than hynny – 1, Heledd Wynn Newton, Caerdydd; 2, Zara Evans, Tregaron.
Darllen Darn o’r Ysgrythur – cynradd – 1, Heledd Wynn Newton, Caerdydd; 2, Zara Evans, Tregaron; 3, Trystan Llyr Davies, Rhosmaen, Llandeilo.
Cân werin blwyddyn 6 a than hynny – 1, Heledd Wynn Newton, Caerdydd; 2, Zara Evans, Tregaron.
Unawd canu blynyddoedd 7 i 9 – 1, Hanna Richards, San Clêr; 2, Ffion Griffiths, Y Tymbl; Cydradd 3ydd Rhys Jones, Llannon a Rhys Wynn Newton, Caerdydd.
Llefaru blynyddoedd 7 i 9 – 1, Hanna Richards, San Clêr; 2, Rhys Wynn Newton, Caerdydd.
Unawd blynyddoedd 10 ac 11 – 1, Tomos Evans, Sir Benfro.
Llefaru blynyddoedd 10 ac 11 – Cydradd 1af, Elen Fflur Davies, Rhosmaen, Llandeilo a Tomos Evans Sir Benfro.
Cân werin blynyddoedd 7 i 11 – 1, Ffion Griffiths, Y Tymbl; 2, Hanna Richards, San Clêr; 3, Tomos Evans, Sir Benfro.
Unawd ar unrhyw offeryn cerdd 18 oed a than hynny – 1, Rhys Wynn Newton, Caerdydd.
Cystadleuydd Ifanc Mwyaf Addawol ym Marn y Beirniad yn yr Adran Gerdd (hyd at 21 oed) – Heledd Wynn Newton.
Cân werin – agored – 1, David Maybury, Maesteg; 2, Rhian Evans, Y Tymbl; 3, Rhys Wynn Newton, Caerdydd.
Llefaru darn o’r Ysgrythur – 1, Maria Evans, Alltwalis; 2, Elen Fflur Davies, Rhosmaen, Llandeilo; 3, Rhys Wynn Newton, Caerdydd.
Canu emyn: dan 60 oed – 1, Arwel Evans, Ffynnon Groes.
Llefaru dros 21 oed – 1, Joy Parry, Cwmgwili; Cydradd 2il, Maria Evans, Alltwalis a Brynferch, Garnant.
Canu emyn dros 60 oed – 1, Vernon Maher, Saron, Llandysul; 2, David Maybury, Maesteg.
Adrodd Digri – 1, Elen Fflur Davies, Rhosmaen, Llandeilo.
Cenwch im yr Hen Ganiadau – 1, David Maybury, Maesteg; 2, Vernon Maher, Saron, Llandysul; Cydradd 3ydd Helen Pugh, Llandeilo ac Arwel Evans, Ffynnon Groes.
Her unawd – 1, Helen Pugh, Llandeilo; 2, Arwel Evans, Ffynnon Groes; 3, David Maybury, Maesteg; 4, Vernon Maher, Saron, Llandysul.
Canlyniadau Gwaith Llenyddiaeth Eisteddfod Gadeiriol y Tymbl 2013
Y Gadair – Y Bont – Nia Morgan.
Englyn Ysgafn – J.B. Phillips.
Telyneg – Llusern – 1, Beti Wyn James; 2, J. B. Phillips; Cydradd 3ydd, Lynda Ganatsiou a John Meurig Edwards.
Emyn Dôn – 1, Meirion Wynn Jones; 2, Gwilym Lewis.
Limrig – Pwy Tybed A Gaiff Ei G/Chadeirio – 1, John Meurig Edwards; 2, John Meurig Edwards; 3, J. Williams.
Ysgrif neu Stori – Trysor(au) Lleol – 1, Carys Briddon; 2, Lynda Ganatsiou; 3, Lynda Ganatsiou.
Brawddeg – Beirniaid – 1, Carys Briddon; 2, Renee Tudor; 3, T. Vaughan Roberts.