Barack Obama
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn parhau i fod ar stop heddiw wrth i’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr feio ei gilydd am y digwyddiad.

Roedd  parciau cenedlaethol, amgueddfeydd a swyddfeydd ffederal wedi cau ddoe a bu’n rhaid i 700,000 o weithwyr aros adre o’u gwaith heb dal.

Mae arweinwyr y ddwy blaid wedi rhybuddio y gallai’r sefyllfa barhau am wythnosau.

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyhuddo’r Gweriniaethwyr o achosi’r sefyllfa – y cyntaf o’i fath ers 17 mlynedd – drwy geisio atal ei gynlluniau i ddiwygio’r gyfraith gofal iechyd yn  y wlad.