Mae Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad o chwarter  yn elw’r grŵp heddiw.

Er i’r cwmni archfarchnad ddweud bod eu  hymdrechion i wella’u perfformiad yn y DU yn llwyddo, mae Tesco yn cyfri’r gost yn sgil gostyngiad mawr yn ei elw a chostau ailstrwythuro ar draws Ewrop ac Asia.

Fe gyhoeddodd Tesco elw o £1.39 biliwn cyn treth am chwe mis cynta’r flwyddyn – gostyngiad o 24.5%.

Roedd elw’r cwmni yn y DU wedi codi 1.5% i £1.13 biliwn, gyda gwerthiant, sydd ddim yn cynnwys petrol, yn aros yn sefydlog am yr ail chwarter, ar ôl gostwng 1% yn y tri mis blaenorol.

Yn y cyfamser mae Sainsbury’s wedi cyhoeddi bod ei werthiant, sydd ddim yn cynnwys petrol, wedi cynyddu 2% yn yr ail chwarter.