David Cameron
Fe fydd David Cameron yn amlinellu ei gynlluniau i wneud Prydain yn “wlad llawn cyfleoedd” heddiw.

Yn ei araith i gloi cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, fe fydd y Prif Weinidog yn dweud wrth aelodau ei blaid nad yw elw, cyfoeth, torri trethi, a menter yn “eiriau budr”.

Mae disgwyl iddo hefyd gyhuddo arweinydd Llafur, Ed Miliband, o ddilyn agenda sy’n atal busnesau a mentrau rhag ffynnu.