Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes oedrannus farw mewn tân mewn cartref gwarchod yn Aberystwyth neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref Glyn Padarn yn Llanbadarn Fawr am 8.28yh nos Fawrth.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff y ddynes yn yr adeilad.

Oherwydd y mwg yn yr adeilad cafodd 27 o’r preswylwyr eraill eu symud dros dro i’r ganolfan hamdden ond mae’r rhan fwyaf bellach wedi dychwelyd i’r cartref gwarchod.

Mae teulu’r ddynes oedrannus wedi cael gwybod am ei marwolaeth.

Mae Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal ymchwiliad.