Mae’r actor a’r digrifwr, Billy Connolly wedi cyhoeddi heddiw bod doctoriaid wedi dweud wrtho ei fod wedi gwella o ganser y prostad.

Mae’r diddanwr o Glasgow yn 70 oed ac wedi ymddangos ar lwyfannau ar draws y byd gyda’i sioeau cerdd a chomedi.

Roedd yn siarad gyda Sky Sports News yng Glasgow heddiw cyn gêm Celtic yn erbyn Barcelona heno.

Mae’r digrifwr yn parhau i gael triniaeth ar gyfer clefyd Parkinson’s. Mae’n briod a’r actores a’r seicolegydd Pamela Stephenson.