Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwneud ei orau i dawelu’r dyfroedd gydag ymgyrchwyr hawliau cyfartal, trwy fynnu ei fod ef ei hun yn “ffeminydd”.

Fe ddaeth dan y lach yr wythnos ddiwetha’ ar ol gwrthod derbyn y label yn ystod cyfweliad gyda’r wasg.

“Dw i ddim yn gwybod be’ faswn i’n galw fy hun,” meddai David Cameron wrth gylchgrawn Red.

“Mae hi i fynyd i bobol eraill i roi labeli arna’ i. Ond dw i’n credu y dylai dynion a merched gael eu trin yn gyfartal.”

Ond erbyn heddiw, mewn ymateb i gwestiwn am y cyfweliad hwnnw gyda rhaglen Channel 4 News, roedd David Cameron ychydig yn llai swil i ddefnyddio labeli.

“Os mai ffeminydd ydi rhywun sy’n credu mewn triniaeth gyfartal i ddynion a merched, yna ydw, rydw i’n ffeminydd,” meddai.