Mae Prif Weinidog Cymru wedi camu mewn i’r ffrae dros alwadau i ail-enwi pentref yn Nhorfaen wrth ei sillafiad Cymraeg.

Mae Cyngor Torfaen yn ymgynghori ar ail-enwi pentref Varteg, ger Pont-y-pŵl, ond mae rhai trigolion lleol yn gwrthwynebu’r cynllun oherwydd eu bod nhw’n pryderu y bydd y sillafiad Cymraeg yn ei gwneud nhw’n destun jôc.

Dechreuodd Cyngor Torfaen ymgynghoriad yn gynharach eleni i ystyried newidiad enwau 22 o leoedd yn y sir.

Gwrthwynebiad i ‘Farteg’

Meddai llefarydd ar ran y cyngor eu bod nhw wedi penderfynu, yn dilyn trafodaeth gyda phobl leol, yn erbyn newid enw’r pentref i ‘Farteg’.

Ond mae’r dewis arall – ‘Y Farteg – yn parhau i fod yn opsiwn ac mae’r symudiad yn cael ei gefnogi gan swyddfa’r Comisiynydd Iaith.

Cododd AC Torfaen, Lynne Neagle, y mater yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad heddiw. Dywedodd bod y cynnig o gyfieithu enw’r pentref yn gyrru hollt rhwng y siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg yn yr ardal.

Meddai Lynne Neagle: “A wnewch wrando ar bobl Varteg sydd wir ddim eisiau newid enw’r pentref ac a wnewch hefyd edrych i weld os yw hi’n bosib defnyddio cyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn well drwy hyrwyddo’r iaith.”

Angen bod yn ymarferol

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones na fyddai’n synhwyrol defnyddio’r sillafiad Cymraeg cywir “am resymau amlwg”.

“Mae angen bod yn ymarferol am y pethau yma,” meddai wedyn. “Rhai blynyddoedd nôl pwyntiodd y diweddar Dr Phil Williams ar Varteg fel esiampl o ble na fyddai hi’n synhwyrol i ddefnyddio’r sillafiad Cymraeg cywir am resymau amlwg

“Y realiti ydy, fel gwlad ddwyieithog, mae rhaid i ni fod yn sensitif i’r camddehongliad a all gael eu rhoi ar rai sillafiadau a dw i’n meddwl byddai dewis ymarferol yn cael ei groesawu gan yr etholwyr.”

Ond yn ôl y pentrefwyr, tra bod Y Farteg fod yn ramadegol gywir, gallai ddenu sylw diangen gan bobl o du hwnt i’r ardal.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Giles Davies: “Gallwch ddychmygu pobl yn cymryd lluniau o arwydd y pentref ac yna ei roi ar Facebook.”