Mae un o frodyr iau arlywydd Sinn Fein, Gerry Adams, wedi cael ei ddyfarnu’n euog o gyfres o droseddau yn ymwneud a chamdrin plant.

Fe gafwyd Liam Dominic Adams, 58, o Bernagh Drive yng ngorllewin Belffast, yn euog o dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ei ferch, Aine, dros gyfnod o chwe blynedd rhwng 1977 and 1983, pan oedd y ferch rhwng 4 a 9 oed.

Roedd y rheithgor o naw dyn a thair dynes yn Llys y Goron Belffast wedi bod yn y llys am bythefnos yn gwrando ar dystiolaeth.

Fe adawodd y rheithgor y llys toc wedi 11 o’r gloch fore heddiw, a chymryd bron i bedair awr i gyrraedd eu dyfarniad gyda mwyafrif o 11 i 1.