Mae nifer o wleidyddion a fu’n gefnogwyr Silvio Berlusconi yn gwrthod dilyn cyfarwyddiadau’r cyn-arweinydd wrth iddo geisio dymchwel llywodraeth glymblaid yr Eidal.
Mae Carlo Giovanardi, cyn-gefnogwr brwd a ffyddlon, wedi cyhoeddi y bydd cymaint a 40 o Aelodau Seneddol asgell dde Silvio Berlusconi yn pleidleisio o blaid llywodraeth Enrico Letta.
Gallai hynny olygu fod yr arweinydd asgell chwith yn dal gafael mewn grym, a hynny bum mis ers iddo gael ei ethol i’r swydd.
Roedd Silvio Berlusconi wedi gwylltio yr wythnos ddiwetha’, wedi i seneddwyr i’r chwith o’r canol ddweud y byddan nhw’n pleidleisio dros iddo golli ei sedd, wedi ei gael yn euog o droseddau treth.
O ganlyniad, fe dynnodd Berlusconi ei weinidogion allan o’r llywodraeth glymblaid. Ond mae ei brif gynorthwy-ydd, Angelino Alfano, wedi annog i’r blaid barhau i gefnogi Enrico Letta.
Mae Silvio Berlusconi bellach dan bwysau mawr i ollwng ei ymgyrch i danseilio Enrico Letta a’i lywodraeth.