Lostprophets
Mae Lostprophets wedi cyhoeddi eu bod nhw am orffen fel grŵp, mewn cyhoeddiad ar eu tudalen Facebook brynhawn yma.

Mewn neges i’w cefnogwyr ar y wefan gymdeithasol, dywedodd y grŵp eu bod wedi bod yn ystyried y cam ers peth amser.

Mae dyfodol y band o Bontypridd wedi bod o dan gwmwl ers i’r prif leisydd Ian Watkins gael ei arestio am droseddau rhywiol yn erbyn plant fis Rhagfyr y llynedd.

Mae yntau’n dal i wadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac fe fydd yr achos yn ôl yn y llys ym mis Tachwedd.

Torcalon

Disgrifiodd y band brofiad y misoedd diwethaf fel un torcalonnus. Yn eu datganiad, dywedodd Jamie, Lee, Luke, Mike a Stu:

“Ar ôl bron i flwyddyn o ddelio gyda’r torcalon, rydym o’r diwedd yn barod i gyhoeddi’n swyddogol beth ydyn ni wedi bod yn teimlo’n breifat ers sbel. Allwn ni ddim cario mlaen i wneud cerddoriaeth fel y Lostprophets.”

“Mae’ch cariad a’ch cefnogaeth dros y pymtheg mlynedd diwethaf wedi bod yn wych, ac fe fyddwn ni wastad yn falch am bopeth rydych chi wedi’i roi i ni. Wrth i ni edrych ymlaen at ran nesa’ ein bywydau, allwn ni ond gobeithio gweithio gyda phobol mor ffyddlon ac ysbrydoledig a chi.”

Un o fandiau amlycaf Cymru

Ffurfiwyd y band roc yn 1997 gyda phedwar aelod gwreiddiol, gan gynnwys Watkins. Ers hynny maent wedi mynd ymlaen i ryddhau pum albwm, gan gynnwys ‘Start Something’ a ‘Liberal Transmission’.

Cafodd y band ddwy gân yn y deg uchaf yn siartiau Prydain, ‘Last Train Home’ a ‘Rooftops’, ac maent wedi gwerthu dros 3.5miliwn albwm ar draws y byd.

Cafodd eu halbwm diweddaraf, ‘Weapons’, ei ryddhau yn 2012, ond dyw’r band heb chwarae ers i Watkins gael ei arestio.