Bydd S4C yn darparu gwasanaeth arwyddo i wylwyr byddar yn ystod sesiwn ‘Cwestiynau i’r Prif Weinidog’ ar raglen ‘Y Dydd yn y Cynulliad’.

Darlledir y rhaglen yn wythnosol ac o heddiw ymlaen, fe fydd cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin wrth i’r Prif Weinidog gael ei holi.

Mae’r gwasanaeth arwyddo yn ddatblygiad newydd yn sgil cytundeb rhwng S4C, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi’r datblygiad newydd hwn sy’n golygu bod gwasanaeth arwyddo ar sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Mae’r sesiwn yn un bwysig iawn i bobl Cymru ac rydym am sicrhau bod y rhaglen ar gael i gymaint o bobl â phosib.”

Ychwanegodd y Llywydd, Rosemary Butler AC: “Mae’n rhaid i’r Cynulliad ymgysylltu â phob cymuned yng Nghymru a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu darlledwyr i gyflawni’r nod hwn.”