Silvio Berlusconi
Mae llywodraeth glymblaid yr Eidal yn wynebu argyfwng arall ar ôl i bump gweinidog sy’n aelodau o blaid y cyn-Brif Weinidog Silvio Berlusconi gyhoeddi eu bod yn bwriadu ymddiswyddo.
Dyw’r gweinidogion ddim wedi cyflwyno eu hymddiswyddiadau yn ffurfiol hyd yn hyn ac mae’r Prif Weinidog Enrico Letta wedi cyhuddo Berlusconi o drefnu’r “arwydd honco” er mwyn cuddio agweddau o’i fywyd personol.
Fe gafodd y llywodraeth glymblaid ei ffurfio bum mis yn ôl rhwng plaid canol-adain dde Berlusconi a phlaid canol-adain chwith Letta. Mae’r cyhoeddiad am yr ymddiswyddiadau yma yn nodi diwedd y glymblaid.
Mae’r llywodraeth wedi bod yn ddigon gwantan ers wythnosau ar ôl i’r Uchel Lys gadarnhau bod Berlusconi yn euog o dwyll ynglyn â threth.
Mae Berlusconi wedi annog ei weinidogion i ymddiswyddo os na fydd y llywodraeth yn diddymu cynydd yn TAW sydd i fod i gychwyn yr wythnos nesaf.
Mae Letta wedi bygwth ymddiswyddo os na chaiff o ddatganiadau buan o gefnogaeth mewn pleidlais yn y Senedd ac mae bron iawn bob un o seneddwyr plaid Berlusconi wedi bygwth rhoi’r gorau iddi os y bydd un o bwyllgorau y senedd yn ei wahardd oherwydd y collfarn am dwyll.