Mae Heddlu Gwent yn holi dyn 29 oed ar ôl i lanc 18 oed gael ei ladd gan gar yng Nghefn Hengoed yn ystod oriau mân bore Sadwrn.
Roedd y llanc yn cerdded pan gafodd ei daro gan y car ac roedd wedi marw pan gyrhaeddodd yr ysbyty.
Mae’r dyn 29 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o achosi marwoaleth trwy yrru’n beryglus ac mae’r heddlu wedi gofyn i unrhyw un welodd gar BMW Compact yn ardal Cilgant Hengoed gysylltu efo nhw.
Roedd y llanc deunaw oed yn dod o ardal Cefn Hengoed ac mae swyddogion yn cynnal y teulu yn ôl Heddlu Gwent.