Mae bachgen 13 oed yn fyw ac yn iach ac adref yn Llandysul ar ôl bod ar goll am 24 awr.

Aeth Jordan Ben Rimmington ar goll nos Wener ar ôl cael ei weld yn gadael Ysgol Gyfun Emlyn am 3.30 b’nawn Gwener.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi apêl brynhawn ddoe gan ddweud eu bod yn bryderus amdano ond mae nhw bellach wedi dweud eu bod wedi dod o hyd iddo.