Wedi'r ffrwydriad yn Peshawar
Lladdwyd 33 o bobl ac anafwyd dros 70 wrth i fom ffrwydro’r bore yma (Sul) mewn car oedd wedi ei barcio ynghanol marchnad yn Peshewar yn Pacistan.

Mae’r farchnad hefyd wrth ymyl mosg a swyddfa’r heddlu yn y ddinas.

Mae dros 130 bellach wedi cael eu lladd gan ffrwydron yn ystod yr wythnos diwethaf yn Peshewar, sy’n brifddinas un o daleithiau Pacistan.

Cafodd 85 eu lladd gan ddau hunan-fomiwr mewn eglwys yno dydd Sul diwethaf ac yna lladdwyd 19 arall gan fom oedd wedi cael ei osod mewn bws oedd yn cludo gweithwyr y llywodraeth adref dros y Sul.

‘Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn ond mae’r awdurdodau yn Pacistan yn amau mai’r Taliban sy’n gyfrifol.