Kashmir
Mae gwrthryfelwyr wedi ymosod ar swyddfa’r heddlu yn Kashmir, gan saethu a lladd o leia’ chwech o bobol, cyn troi ar wersyll milwrol gerllaw a lladd pedwar o filwyr.
Fe gafodd tri o’r gwrthryfelwyr eu lladd ar ol bron i chwech awr o ymaldd oddi mewn i’r gwersyll milwrol, yn ol llefarydd ar ran yr heddlu yn nhalaith Jammu-Kashmir. Roedd y gwrthryfelwyr yn defnyddio gynnau a grenadau wrth ymladd.
Mae’r ymladd wedi dod i ben, ac mae’r awdurdodau’n dweud eu bod nhw bellach wrthi’n glanhau a chlirio ardal y frwydr.
Yn ol adroddiadau gan lygad-dystion, tri gwrthryfelwr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.