Mae Boris Johnson ac Emmanuel Macron wedi cynnal trafodaethau ddyddiau’n unig cyn y dyddiad cau ar gyfer taro bargen Brexit.
Fe wnaeth arweinwyr Prydain a Ffrainc gynnal cyfarfod dros y ffôn, wrth i Johnson ddweud y byddai’n “troedio pob llwybr” er mwyn sicrhau cytundeb, ond ei fod yn barod i gefnu ar y trafodaethau ar ddiwedd y flwyddyn gan fabwysiadu system debyg i’r hyn sy’n bod yn Awstralia pe bai angen.
Mae’r ddwy ochr yn gytûn fod angen bargen cyn diwedd y mis er mwyn rhoi digon o amser i gael sêl bendith cyn diwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd y flwyddyn.
Gobaith prif weinidog Prydain yw sicrhau cytundeb erbyn dechrau uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel yr wythnos nesaf.
Daw’r trafodaethau ar ôl i’r negodwyr, yr Arglwydd Frost a Michel Barnier gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb yn Llundain ddoe (dydd Gwener, Hydref 9).
Mae lle i gredu bod y coronafeirws hefyd wedi cael ei drafod.