Heston Blumenthal - cogydd gyda chwe seren Michelin bellach
Mae’r cogydd, Heston Blumenthal, wedi cael ei wobrwyo gyda chweched seren Michelin, wrth i’w fwyty newydd, ‘Lima’ yn Llundain, gael ei uwchraddio i ddwy seren.
Mae’r cogydd hefyd wedi cadw statws dair seren ei fwyty, The Fat Duck yn Bray yn Berkshire, ynghyd a’i un seren i The Hinds Head, sydd hefyd yn Bray.
Lima yn Llundain yw’r bwyty Perwfiaidd cynta’ i gael seren Michelin, gan danlinellu pa mor boblogaidd yw bwyd De America ar y funud.