Murlun yr UVF yn ninas Belffast
Mae grwp parafilwrol Unoliaethol yn cael y bai am saethu dynes ifanc yn nwyrain Belffast neithiwr.

Y gred ydi mai grwp anghyfreithlon yr Ulster Volunteer Force (UVF) oedd y tu ol i’r ymosodiad ar y wraig sengl 24 oed a gafodd ei saethu bum gwaith.

Mae’r ddynes mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, ac mae’n derbyn triniaeth i ran isa’ ei chorff, ei chluniau a’i phengliniau.

Mae gwleidyddion wedi disgrifio’r ymosodiad, a ddigwyddodd yn Lord Street Mews, Belffast tua 10.40yh nos Fercher, fel un “barbaraidd”.