Y Costa Concordia ar ei hochr - cyn ei throi yr wythnos ddiwetha'
Mae deifwyr wedi dod o hyd i weddillion dynol ger safle llongddrylliad y Costa Concordia yn yr Eidal.

Mae’r awdurdodau’n dweud y bydd profion DNA yn cael eu cynnal er mwyn dweud p’un ai gweddillion y ddau deithwyr sy’n dal ar goll ers y ddamwain, ydyn nhw.

Fe gafodd y llong ei chodi yn y dwr yr wythnos ddiwetha’, 20 mis ers i’r llong fod mewn gwrthdrawiad a chreigiau ger Ynys Giglio ar Ionawr 13, 2012.

Mae teuluoedd teithwraig a gweithiwr ar y llong wedi cael gwybod am y darganfyddiad, ond fydd yna ddim datganiad pellach nes y bydd canlyniadau’r profion mewn llaw.