Mae llys yn Rwsia wedi carcharu ffotograffydd ac ymgyrchydd y mudiad amgylcheddol, Greenpeace, wedi protest ger llwyfan olew yn yr Arctig yr wythnos ddiwetha’.

Fe fu’n rhaid i wylwyr y glannau dorri ar draws protest gan y mudiad ar Fedi 18, wedi iddyn nhw fynd a’u llong at y platfform, Russian Arctic, a cheisio dringo i ben y llwyfan.

Fe gafodd llong Greenpeace ei thowio wedyn i borthladd Murmansk, gyda’r 30 o brotestwyr ar ei bwrdd. Mae’r ymgyrchwyr hynny’n destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Mae’r llys heddiw wedi gwrthod rhyddhau ar fechniaeth y ffotograffydd, Denis Sinyakov, a llefarydd Greenpeace, Roman Dolgov, nes y bydd yr ymchwiliad drosodd.

Does yna ddim cyhuddiadau wedi’u dwyn yn erbyn yr un o’r ddau Rwsiad, ac mae’r barnwr eto i gyhoeddi ei benderfyniad ar achos y 28 protestiwr arall.