Baghdad
Mae bomiau wedi ffrwydro mewn marchnadoedd ger Baghdad yn Irac, gan ladd beth bynnag 23 o bobol ac anafu dwsinau.

Fe ffrwydrodd tair bom ar yr un pryd ym mhentre’ Sabaa al-Bour, tua 30km o’r brifddinas. Mae mwyafrif y bobol sy’n byw yno yn Fwslimiaid Shiite.

Fe ffrwydrodd dwy o’r bomiau ger y fynedfa i farchnad a chanolfan siopa, pan oedd y lle’n llawn o bobol. Fe laddwyd 16 o bobol, ac fe gafodd 41 o bobol eu hanafu.

Cyn hynny, roedd bom wedi ffrwydro ym marchnad al-Athorien yn ne Baghdad, gan ladd saith o bobol ac anafu 17.

Mae mwy na 4,000 o bobol wedi cael eu lladd gan fomiau tebyg i hyn yn ystod y misoedd diwetha’.

Hyd yn hyn, does neb wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.