John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America
Mae America a Rwsia wedi cytuno ar gynllun i sicrhau bod Syria’n cael gwared ar ei harfau cemegol.
Ar ddiwedd tri diwrnod o drafodaethau yn Geneva, mae Ysgrifennydd Gwladol America, John Kerry, ac Ysgrifennydd Tramor Rwsia, Sergei Lavrov, wedi cyhoeddi cynllun y bydd yn rhaid i Syria gydymffurfio ag ef.
Mae elfennau o’r cytundeb yn cynnwys amserlen a chyfarwyddyd ynghylch yr hyn sy’n rhaid i Syria ei wneud. Mae’r cytundeb yn golygu hefyd y gallai America a Rwsia fynd yn ôl at gyngor diogelwch y Cenhedloedd Unedig i geisio’r hawl am weithredu milwrol os na fydd Syria’n cydymffurfio.
Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd John Kerry ei fod ef a Sergei Lavror a’u timau o arbenigwyr yn cytuno ar asesiad ar y cyd o’r arfau cemegol sydd gan Syria, ac y bydd yn rhaid i’r cyfan ohonyn nhw gael eu difa.
“Rydym wedi cytuno i safon sy’n gofyn am wirio a gwirio parhaus,” meddai.
Mae’r trafodaethau rhwng America a Rwsia ar gael gwared ar arfau cemegol Syria yn cael eu hystyried fel rhai allweddol er mwyn ailgychwyn trafodaethau heddwch i ddod â’r rhyfel cartref i ben yno.