Fe fydd tâl o 5 ceiniog am fagiau plastig fel sydd wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dwy flynedd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr yn 2015.
Mae’r cynllun yn cael ei gyhoeddi gan y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ar drothwy cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Glasgow.
Mae’r penderfyniad yn cael ei ddehongli fel buddugoliaeth i Nick Clegg o fewn y Llywodraeth Glymblaid, gan fod llawer o’r Torïaid yn amheus o fesur o’r fath.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni a Newid yn yr Hinsawdd, y Democrat Rhyddfrydol Ed Davey, mai bwriad y tâl yw newid agwedd pobl yn hytrach na chodi arian.
“Un o’r pethau gwych ynglŷn â’r tâl yma yw fod y Llywodraeth yn annog pobl i’w osgoi – trwy ailddefnyddio a pheidio â defnyddio bagiau plastig,” meddai.
Mae’r cynllun wedi profi i fod yn llwyddiant mawr yng Nghymru lle mae lleihad o 76% wedi bod yn y defnydd o fagiau plastig ers i’r tâl gael ei gyflwyno yn 2011.