Gweddillion y ffatri ddillad ar ôl dymchwel yn gynharach eleni (llun: PA)
Mae arbenigwyr diogelwch o Brydain wedi mynd i Bangladesh i geisio osgoi trychineb arall debyg i’r un a ddigwyddodd mewn ffatri ddillad yno’n gynharach eleni.

Cafodd dros fil o weithwyr eu lladd wrth i adeilad Rana Plaza ddymchwel yn Dhaka ym mis Ebrill.

Bydd y tîm o dri arbenigwr, dau o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac un o Adran Reoleiddio’r Llywodraeth, yn cynghori asiantaeth rheoliadau adeiladu Bangladesh ar sut i dynhau ei gyfundrefn arolygu.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Ddatblygu Rhyngwladol, Justine Greening:

“Roedd y trychineb y ffatri’n dymchwel yn Bangladesh yn rhybudd inni i gyd o’r angen i wneud rhywbeth yngylch yr amodau dychrynllyd y mae gweithwyr yn y trydydd byd yn eu dioddef i gynhyrchu dillad rhad.”