Llanast y llifogydd yn nhref Lyons, Colorado (AP Photo/Brennan Linsley)
Mae pedwar o bobl wedi cael eu lladd a miloedd o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn nhalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau o achos llifogydd.
Dros y dyddiau diwethaf, mae rhuthr o ddŵr o uchelderau mynyddoedd y Rockies wedi troi ardaloedd eang o o wastatiroedd dwyreiniol y dalaith yn gors fwdlyd.
Mae dinasoedd wedi cael eu hamgylchynu gan ddŵr, a thref Lyons, lle bu’n rhaid i 2,500 ffoi o’u cartrefi, wedi ei throi’n chwech o ynysoedd.
Parhau mae’r gwaith o achub pobl o bentrefi gwledig ar droed y Rockies, gyda hofrenyddion y Gwarchodlu Cenedlaethol yn cael eu defnyddio i godi pobl a oedd yn gaeth yn eu cartrefi.
Yn eu plith roedd bron i 300 o drigolion pentref Jameston a oedd wedi cael ei ynysu ers ddydd Mercher. Mae disgwyl y bydd yn cymryd wythnosau lawer i lanhau’r difrod yn y dalaith.