Mae rhybudd y bydd stormydd sy’n debyg o daro’r Alban a Gogledd Iwerddon y penwythnos yma’n effeithio ar ogledd Cymru’n ogystal.
Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybuddion am y stormydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gydag ofnau am wyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr mewn rhannau o’r Alban. Mae disgwyl glaw trwm yn ogystal.
Er nad oes disgwyl i’r stormydd fod llawn arw yng Nghymru, dywed arbenigwyr y gall y gwyntoedd fod hyd at 50 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd yfory.
Meddai prif ddaroganwr y Swyddfa Dywydd, Paul Gundersen:
“Mae disgwyl gwyntoedd gorllewinol nerthol yn hwyrach ddydd Sul a dydd Llun ar draws llawer o’r Alban, gogledd Gogledd Iwerddon ac arfordiroedd gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru.
“Dylai’r cyhoedd fod yn barod am rywfaint o darfu ar deithio, a chadw llygad am yr wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd.”