Bydd dyn 21 oed yn ymddangos gerbron ynadon Abertawe heddiw ar amheuaeth o falu ffenestri mewn mosg ac o ymosod ar ddau o bobl.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad mewn mosg yn Tonna, ger Castell Nedd, yn oriau mân bore ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod amryw o ffenestri wedi cael eu malu a bod dyn a dynes wedi dioddef ymosodiad.

Mae’r dyn lleol 21 oed wedi’i gyhuddo o ymosodiad hiliol ac o ddifrod troseddol.