Mae tri o bobl yn cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o lofruddiaeth a allai fod yn gysylltiedig â marwolaethau mam a’i thri o blant mewn tân yn eu tŷ yng Nghaerlŷr.
Fe fu farw Shehnila Taufiq, a oedd yn ei 40au, ynghyd â’i merch 19 oed a’i meibion 17 a 15 oed yn y tân yn eu cartref yn oriau mân bore ddoe.
Fe ddigwyddodd y tân rai oriau ar ôl i ddyn cael ei lofruddio mewn stryd gerllaw eu cartref.
Mae dyn a dwy ferch, y tri’n 19 oed, wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwnnw.
Roedd yr heddlu’n amau i ddechrau y gallai’r teulu fod wedi cael eu lladd mewn dialedd, ond fe wnaethon nhw gadarnhau’n ddiweddarach nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y teulu yma a’r ymosodiad arall.