Mae ansawdd llawer o gyfrifon cynghorau tref a chymuned yn aml  yn wael.

Dyna gasgliad Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl yr Archwilydd mae hyd at 40% o gynghorau tref a chymuned wedi methu cyflwyno’u cyfrifon mewn da bryd yn 2012; bod un o bob saith heb gyflwyno datganiad blynyddol i’w archwilio a bod un o bob deg o’r cyfrifon a gyflwynwyd angen eu cywiro.

Roedd  bron un o bob pum cyngor lleol wedi methu bodloni’r safonau llywodraethu gofynnol.

Trefn newydd

Dan drefniadau newydd yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddwyd heddiw, bydd archwiliadau cynghorau lleol yn cynnwys adolygiad thematig o drefniadau llywodraethu. Bydd cynghorau tref a chymuned yn cael gwybod ymlaen llaw pa feysydd penodol fydd yn rhan o’r adolygiad thematig bob blwyddyn. Bydd y trefniant hwn yn galluogi’r cynghorau i nodi meysydd lle mae angen iddynt wella’u trefniadau a gwneud unrhyw welliannau angenrheidiol cyn dechrau’r flwyddyn ariannol.

Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae’n annerbyniol nad yw cynghorau lleol sy’n cael eu cyllido gan arian cyhoeddus yn llwyddo i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a pharatoi datganiadau cyfrifon i’w harchwilio.”