Mae arweinydd Al-Qaida wedi nodi 12 mlynedd ers trychineb 9/11 trwy annog Mwslemiaid i ymosod ar dargedau y tu fewn i’r Unol Daleithiau.
Mewn neges sain, mae Ayman al-Zawahri, olynydd Osama bin Laden, yn galw ar Fwslemiaid yn yr Unol Daleithiau i weithredu ymosodiadau “bach a mawr” er mwyn targedu’r wlad yn ariannol, gan niweidio’r economi.
Dywedodd Ayman al-Zawahri bod angen i gefnogwyr al-Qaida ymgymryd â gweithredoedd bach neu un weithred fawr yn yr Unol Daleithiau, o’r math a welwyd ar Fedi 11, 2001.
Wrth annerch ei gefnogwyr, dywedodd Ayman al-Zawahri: “Mae angen bod yn bwyllog gan aros i gymryd mantais o bob cyfle i ymgymryd gydag ymosodiad mawr yn erbyn yr Unol Daleithiau, hyd yn oed petai’n cymryd blynyddoedd.”
Wrth gyfeirio at y rhyfel cartref yn Syria, dywedodd Ayman al-Zawahri bod nifer o aelodau o al-Qaida yn weithredol yn Syria ac yn brwydro yn erbyn arlywydd y wlad, Bashar al-Assad.
Nid yw dilysrwydd y neges wedi ei gadarnhau eto ond cafodd ei chwarae ar wefan sy’n gysylltiedig ag al-Qaida.