Mae Radio Cymru yn ceisio dod o hyd i leisiau newydd i gyflwyno rhaglenni i’r ifanc yn slot C2.
Yn ôl cyflwynydd enwoca’ C2 “mae’n gyfel gwych”.
Meddai Huw Stephens: “Os ych chi eisiau dod ar y radio, a chi’n meddwl bod gyda chi y ‘sbarc’ yna i ddarlledu ar C2, wel mae ’na gyfle perffaith i wneud hynny nawr!”
Mae’r orsaf radio yn gofyn i bobl yrru recordiad ohonyn nhw’u hunain, os ydyn nhw am gael eu hystyried ar gyfer y gwaith.
Ychwanegodd Huw Stephens, sydd hefyd yn cyflwyno a chwarae recordiau ar Radio 1, fod cyfleon i weithio yn y byd darlledu yn brin iawn.
Bydd y cyfle i anfon ceisiadau am waith yn parhau tan nos Wener, Hydref 4ydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan BBC Radio Cymru, sef bbc.co.uk/radiocymru