Tony Abbott
Mae’r Blaid Lafur wedi colli’r etholiad cyffredinol yn Awstralia.

Mae’r Prif Weinidog presennol Kevin Rudd wedi derbyn fod ei blaid wedi colli, a’r Prif Weinidog newydd ydi Tony Abbott sy’n arwain y glymblaid Rhyddfrydol-Cenedlaethol.

Dywedodd Tony Abbott ei fod yn edrych mlaen at ffurfio llywodraeth alluog a dibynadwy.

Gyda dwy ran o dair o’r pleidleisiau wedi eu cyfrif, roedd y glymblaid wedi sicrhau 85 o seddau yn y senedd, ac yn edrych yn debyg o ennill cyfanswm o 91 sedd. Roedd Llafur wedi ennill 54 sedd, ac yn edrych yn debyg o ennill un sedd arall.

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi trydar i ddweud ei fod wedi ffonio Tony Abbott i’w longyfarch.