Y bont yn Dartford Crossing
Mae dyn yn cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o ffugio fod ganddo fom.

Cafodd Dartford Crossing ei gau yn y digwyddiad neithiwr a achosodd dagfeydd erchyll ar draffordd yr M25.

Dywed heddlu Caint fod dyn 27 oed o dramor wedi bygwth fod ganddo declyn amheus ar y bws yr oedd yn teithio ynddo ac wedi son fod dyfais ffrwydrol ar fws arall.

Caewyd Pont y QE2 a Thwneli Dartford am bron i saith awr ac ataliwyd traffig rhag defnyddio’r A20 yn Dover.

Cafodd y dyn ei arestio am 4.15 prynhawn ddoe. Bu arbenigwyr difa bomiau yn archwilio’r ddyfais yn y bws. Cafodd bws arall hefyd ei stopio a’i archwilio ond ni chafodd unrhyw ddyfais ei ddarganfod.

Ail agorwyd ffordd yr A20 tua 10.45 yr hwyr ac fe ail agorwyd Dartford Crossing am 11.45 yr hwyr.

Dywedodd  Prif Gwnstabl Cynorthwyol Rob Price eu bod nhw wedi delio â sefyllfa ddifrifol ac mae’r flaenoriaeth oedd sicrhau diogelwch y cyhoedd. Diolchodd i aelodau’r cyhoedd am eu hamynedd, a diolchodd i bawb fu’n rhan o’r ymchwiliad am eu gwaith.