Bu farw bachgen 11 oed a dyn ar ôl damwain ffordd ger Cas-gwent prynhawn ddoe.

Mae’r heddlu wedi dweud fod y ddau ohonyn nhw yn dod o ardal Cas-gwent.

Bu dau gar mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A466 – ffordd gyswllt Dyffryn Gwy.

Mi wnaeth dwy ferch oedd yn teithio mewn cerbyd Vauxhall Corsa oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad dderbyn triniaeth am fân anafiadau yn yr ysbyty.

Mi wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru anfon tri ambiwlans ynghyd â’r ambiwlans awyr, meddyg a phum cerbyd ymateb cyflym i’r ddamwain.

Fe achosodd y ddamwain dagfeydd traffig.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw drwy ffonio’r rhif 101. Maen nhw’n awyddus i siarad â beiciwr a welwyd yn teithio i gyfeiriad Cas-gwent ar y pryd.