Parc Cwmdonkin
Mae’n ddiwrnod o ddathlu ym Mharc Cwmdonkin, Abertawe, heddiw wrth i’r parc gael ei ail agor yn swyddogol.

Mae £1.4 miliwn wedi cael ei wario ar adnewyddu’r parc sy’n cael ei gysylltu â’r awdur Dylan Thomas. Magwyd Dylan yn 5, Cwmdonkin Drive ger y parc ac roedd yn cyfeirio ato yn aml yn ei waith, gan gynnwys y gerdd ‘The Hunchback in the Park’.

Codwyd cofeb i Dylan Thomas yn y parc yn ôl yn 1963, ac mae’n cynnwys llinellau o’i gerdd enwog, ‘Fern Hill’.

Mae Cyfeillion Parc Cwmdonkin wedi trefnu nifer o weithgareddau yno heddiw fel rhan o’r dathliadau, gan gynnwys cerddoriaeth gan artistiaid a bandiau lleol, gweithdai barddoniaeth, a pherfformiad o rannau o Under Milk Wood gan ddisgyblion Ysgol Gymunedol Dylan Thomas.

Bydd Peter Karrie, seren y Phantom of the Opera, yn canu mewn cyngerdd yno heno.

Mae’r arian ar gyfer y gwaith adnewyddu wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Abertawe, Cyfeillion Parc Cwmdonkin a phrosiect twristiaeth cynaliadwy Llywodraeth Cymru.