Fe all glaw trwm achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru heddiw.

Mae asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio y gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn rhannau o ogledd orllewin a de orllewin Cymru.

Mae’n dweud y gall rhwng 25-50 mm o law ddisgyn heddiw ac y dylai gyrwyr fod yn ofalus gan y gallai amodau gyrru fod yn anodd mewn rhai ardaloedd.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd am y glaw trwm.

Mae’r rhybudd yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol: Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Caerfyrddin, Abertawe a Phenfro.