Stadiwm y Cae Ras
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar ôl i faner sarhaus gael ei chwifio yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Chaer dydd Sadwrn diwethaf.
Roedd y faner yn targedu cefnogwyr Caer.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio ar ôl derbyn adroddiadau fod baneri sarhaus eraill wedi cael eu harddangos mewn eisteddle arall yn y Cae Ras.
Dywedodd yr uwch-arolygydd Sacha Hatchett fod yr heddlu yn cynnal ymchwiliad manwl er mwyn darganfod pwy oedd yn gyfrifol am y baneri. Ychwanegodd fod tri dyn wedi cael eu harestio ac y bydd mwy o bobl yn cael eu harestio yn ystod y dyddiau nesaf.
Wrecsam a enillodd y gêm o ddwy gôl i ddim. Dyma oedd y tro cyntaf i’r ddau glwb wynebu ei gilydd ers pedair blynedd.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y baneri i gysylltu â nhw drwy ffonio’r rhif 101.